Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Ebrill 2024
Amser:
09.17 -
12.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13879
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Darren Millar AS Sarah Murphy AS Jane Dodds AS |
Tystion: |
Victoria Vasey, Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru) Jessica Blair, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru Nkechi Allen-Dawson, Cyngor Hiliaeth Cymru Selima Bahadur, Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru Catherine Larkman, Cydlynydd Rhwydwaith Hawliau Menywod Cymru Claire Loneragan, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Hawliau Menywod Katharine Owen, Rhwydwaith Hawliau Menywod Joyce Watson AS, Cadeirydd Cawcws Menywod y Senedd Janet Finch-Saunders AS Sioned Williams AS Rhianon Passmore AS |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Catherine Roberts (Dirprwy Glerc) Josh Hayman (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Claire Thomas (Ymchwilydd) |
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.
Datganodd Sarah Murphy AS, Heledd Fychan AS a Jane Dodds AS eu bod yn aelodau o Gawcws Menywod y Senedd, a fyddai’n rhoi tystiolaeth o dan eitem 5.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Diverse 5050.
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Rhwydwaith Hawliau Menywod.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gawcws Merched y Senedd.
Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, rhannodd Rhianon Passmore AS gopi caled o’i hadroddiad ar Fforwm Byd-eang Reykjavik – Arweinwyr Merched 2023.
Cytunodd Rhianon Passmore AS hefyd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am arolwg Arweinwyr Gwleidyddol Merched a 6ed pwynt data Ymchwil Fynegai Byd-eang Verien, a chyhoeddwyd cofnodion cynhadledd Seneddwragedd y Gymanwlad, Rhanbarth yr Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.